Mae'r byd gwaith yng Nghymru a'r Gymraeg fel disgyblaeth yn esblygu yn sgil y galw cynyddol am weithwyr proffesiynol a sgiliau dwyieithog. Mae'r gyfrol ryngddisgyblaethol hon yn cyfuno lleisiau o'r byd academaidd a'r byd proffesiynol er mwyn archwilio i arwyddocad a rol y Gymraeg mewn gweithleoedd yn y Gymru gyfoes, ymateb y sectorau addysg a recriwtio i anghenion gweithwyr a sefydliadau, a rol gwneuthurwyr polisi yn natblygiad yr iaith mewn cyd-destun proffesiynol. Sut mae gwella sgiliau dwyieithog gweithwyr? Er gwaethaf ewyllys da nifer o sefydliadau, a yw sgiliau Cymraeg eu gweithwyr yn cael eu cymhwyso? Beth yw buddiannau'r Gymraeg i weithleoedd, a beth yw'r heriau y maen nhw'n eu hwynebu wrth weithredu a chynnig eu gwasanaethau'n ddwyieithog? Beth yw rol y Llywodraeth a Chomisiynydd y Gymraeg yn y fath ddatblygiadau? Wrth ystyried a thrafod y cwestiynau hyn, gofynnir sut y mae polisiau, cyfreithiau a safonau iaith yn effeithio ar y gweithle cyfoes yng Nghymru.

Share This eBook: